Amdanom ni > Staff English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Cyflwyno ein staff            
 
Kelvin Dent            
 
Penodwyd Kelvin Dent, Prif Weithredwr, ym mis Mawrth 2000. Mae’n gyfreithiwr sydd wedi dal swyddi gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Sir Gwynedd.

Mae ei ddiddordebau yn cynnwys cerdded mynyddoedd a cheisio creu cerddoriaeth.

Mae gan Kelvin ddau fab wedi tyfu ac mae fo a'i wraig wedi byw yng Ngwynedd am dros 30 o flynyddoedd.

Nigel Thomas            
 

Trysorydd Rhan Amser Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ers 1997.

Wedi ei eni a'i fagu yn Llandundo. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg John Bright rhwng 1958 to 1963. Wedi gwneud amrywiaeth o swyddi, ymunodd â ChDU Llandudno yn 1969 lle ymgymhwysodd yn Gyfrifydd Ardystiedig yn 1971.

Wedi cyfnod gyda Chyngor Bwrdeistref Dinbych ac ennill cymhwyster pellach fel Cyfrifydd Dinesig, cafodd ei benodi yn Drysorydd i Gyngor Dosbarth Glyndwr ym 1973 a bu yn y swydd honno hyd nes iddo gael ei benodi i Gyngor Sir Ddinbych ym 1995, yn gyntaf fel Pennaeth Cyllid ac yna yn Gyfarwyddwr Cyllid.

Mae Nigel yn  byw yn Ninbych gydai wraig ag yn aelod o Eglwys Bresbyteraidd Cymru a chanddo ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored, gadw'n ffit ac y celfyddydau.

Wendy Moore            
 

Penodwyd Wendy Moore yn Rheolwr Swyddfa Awdurdod yr Heddlu ym mis Mehefin 2004.

Cyn hynny bu'n gweithio i Bwyllgor Llysoedd Ynadon Gogledd Cymru fel Cynorthwy-ydd Personol i Brif Weithredwr yr Ynadon.

Mae Wendy'n byw gyda'i gwr ym Mhenmaenmawr ac ymhlith ei diddordebau mae cerdded, darllen a garddio.

Rhian Rees Roberts            
 

Cafodd Rhian Rees Roberts ei phenodi fel Swyddog Polisi Awdurdod yr Heddlu ym mis Medi 2008, ar ôl gwasanaethu am 18 mis fel aelod ieuangaf erioed Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Mae Rhian yn gyfreithwraig gymwysedig, ac yn ei swydd bresennol bydd yn rhoi cyngor i’r awdurdod ar faterion yn ymwneud â chynllunio, polisi a pherfformiad, yn ogystal â gweithredu, monitro ac adolygu gweithdrefnau ymgynghori ac ymgysylltiad cymunedol yr Awdurdod.

Mae’n byw gyda’i gŵr yn Ninbych ac yn mwynhau mynd i'r theatr, mynd allan am bryd o fwyd a chanu gyda'r côr lleol.

Elizabeth Ward            
 

 

Ymunodd Elizabeth Ward ag Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru fel Cydlynydd Amrywiaeth a Phrosiectau ym mis Ebrill 2006.

Cyn hynny, bu’n gweithio yn Adran Gyfreithiol yr Heddlu fel Gweinyddwr Hawliadau Sifil cyn gadael i astudio Cwrs Ymarfer Cyfreithiol Cymdeithas y Cyfreithwyr yn Llundain.

Ar ôl gweithio am rai blynyddoedd gyda chwmni cyfreithiol yn Ninas Llundain, daeth yn ôl i Ogledd Cymru ac mae bellach yn byw yn Hen Golwyn gyda’i gŵr a’i merched bychan.

Ymysg ei diddordebau mae teithio a darllen.

Rhian Hinks            
 

 

Ymunodd Rhian Hinks ag Awdurdod yr Heddlu ym mis Hydref 2000, yn gyntaf fel ysgrifenyddes a bellach fel Clerc Pwyllgorau.

Cyn ymuno â'r Awdurdod bu'n gweithio i Gyngor Gwynedd yn y Swyddfa Addysg Leol ac mewn dwy ysgol cyn ymuno â chwmni o gyfreithwyr lleol lle bu'n ysgrifenyddes am saith mlynedd.

Daw Rhian yn wreiddiol o Gyffordd Llandudno ond mae hi bellach yn byw yng Nghei Connah gyda'i theulu.

Meinir McCall            
 

Penodwyd Meinir McCall yn Glerc Cyfarfodydd yr Heddlu ym mis Hydref 2005 ac nawr yn gweithio fel Cynorthwydd Personol i'r Prif Weithredwr a'r Cadeirydd.

Cyn ymuno â’r Awdurdod bu’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu swyddfeydd yn y Rhyl a Wrecsam.

Mae Meinir yn byw yn Ninbych heb fod yn bell oddi wrth ei theulu.

Ei diddordebau yw darllen a cadw’n heini.
 Section contents