Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth efo'r Prif Gwnstabl i ddarparu plismona i bobl Gogledd Cymru.
Gwaith Awdurdod yr Heddlu yw:
1. Cynnal effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr heddlu lleol
2. Sicrhau bod yr heddlu lleol yn gwella ei wasanaeth yn gyson a’i fod yn darparu’r safonau uchaf o blismona i’r bobl leol
3. Ymgynghori â phobl leol i sicrhau fod eu barn yn cael ei adlewyrchu yn natur a dull y plismona lleol
4. Gweithio mewn partneriaeth gydag eraill – megis yr uwch swyddog heddlu ac awdurdodau lleol – i leihau trosedd ac anhrefn ac ofn trosedd
I wneud hyn mae’n rhaid:
1. Cysylltu â’r bobl leol i ddarganfod yr hyn y maent yn ei ddymuno gan eu heddlu lleol
2. Cynhyrchu cynllun strategol 3 blynedd ar gyfer plismona
3. Gosod blaenoriaethau plismona lleol a herio targedau er mwyn gwella perfformiad yr heddlu ar ôl ymgynghori gyda’r cymunedau lleol ac uwch swyddogion yr heddlu
4. Cytuno ar gyllideb yr heddlu a phenderfynu faint o dreth cyngor ddylai pobl leol ei dalu tuag at blismona
5. Cyhoeddi cynllun blynyddol sydd yn dweud wrth bobl leol beth y gallant ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth heddlu yn ystod y flwyddyn i ddod
6. Riportio’n ôl i’r cymunedau lleol ac ar ddiwedd y flwyddyn rhoi gwybod i ba raddau y llwyddwyd i gwrdd â gofynion y cynllun
7. Penodi prif swyddog yr heddlu ac uwch swyddogion eraill
8. Monitro’r broses o wneud cwynion a chanlyniadau cwynion a wneir yn erbyn swyddogion heddlu a staff eraill
9. Meithrin partneriaethau adeiladol gyda heddluoedd eraill, awdurdodau lleol, partneriaethau lleihau trosedd ac anhrefn, asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol a mudiadau allweddol eraill i sicrhau bod yr heddlu yn cynnig y gwasanaeth iawn ar gyfer yr ardal
10. Sicrhau gwerth gorau yn narpariaeth gwasanaethau plismona
11. Cynnal Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol |