Amdanom ni > Beth ydym ni'n ei wneud > Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




YMWELD â DALFEYDD ANNIBYNNOL            
 
Cyflwyniad            
 

Mae Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu Cynllun Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol. Mae’r Cynllun yn gwbl annibynnol oddi ar yr Heddlu ac yn helpu i wella atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.

Pwrpas y Cynllun yw galluogi pobl o’r gymuned leol i weld a riportio ar amodau o gadw pobl yn nalfeydd y Gorsafoedd Heddlu gyda’r bwriad o gynyddu hyder y Cyhoedd bod yr Heddlu’n trin carcharorion yn deg ac yn gywir.

Pwy yw Ynwelwyr Dalfeydd Annibynnol?            
 

Gwirfoddolwyr di-dâl yw Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol sy’n cael eu penodi o’r gymuned leol. Maent yn gwneud ymweliadau dirybudd, mewn parau, er mwyn holi ynghylch lles crcharorion yn nalfeydd yr heddlu.

Swydd-ddisgrifiad   Cliciwch yma
Manyleb yr unigolyn     Cliciwch yma

Sut mae Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol yn cael eu penodi?            
 

Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno ymgeisio gwblhau ffurflen gais. Bydd ymgeiswyr sy’n cael eu cynnwys ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd am gyfweliad ffurfiol o flaen panel dethol. Bydd rhaid i’r ymgeiswyr llwyddiannus fynychu hyfforddiant cyflwyno cyn dechrau ar eu dyletswyddau a byddent ar gyfnod prawf o chwe mis. Bydd y rhai sy’n cael eu penodi yn derbyn cerdyn adnabod swyddogol.

Ni fydd Awdurdod yr Heddlu yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau nac unrhyw ohebiaeth mewn perthynas â cheisiadau aflwyddiannus.

Gwybodaeth Ychwanegol            
 

Rhaid i Ymwelwyr Dalfeydd arwyddo cytundeb ar ddechrau eu penodiad. Mae’r cytundeb yn gosod sylfaen dealltwriaeth

Telir costau teithio i Ymwelwyr Dalfeydd ar gyfraddau y cytunwyd arnynt sy’n dibynnu ar faint injan eu car. Os nad oes gan yr Ymwelydd Dalfeydd gar, yna gwneir ad-daliad am bris taith bws a/neu drên.

Mae gan Awdurdod yr Heddlu'r hawl i derfynu penodiad unrhyw Ymwelydd Dalfeydd sydd ddim, ym marn yr Awdurdod, yn ymddwyn mewn modd sy'n cyrraedd y safon a ddisgwylir.

 Section contents