Os oes gennych gwyn yn ymwneud â’r Heddlu neu Awdurdod yr Heddlu, ewch yn eich blaen fel y nodir isod:
1. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad y Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl neu’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol dylech ysgrifennu at y Prif Weithredwr.
2. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag ymddygiad aelod arall o’r heddlu mae'n ymwneud â rheolaeth a chyfarwyddyd yr heddlu a dylech felly ysgrifennu at Adran Safonau Proffesiynol
3. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag aelod o staff Awdurdod yr Heddlu, dylech ysgrifennu at Gadeirydd Awdurdod yr Heddlu
4. Os yw eich cwyn yn ymwneud ag Aelod o Awdurdod yr Heddlu, yna dylech ysgrifennu at yr Ombwdsddyn i Gymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, Pen-y-Bont ar Ogwr CH35 5LJ ffôn: 01656 641150 ffacs: 01656 641199
5. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'r Prif Weithredwr a fydd yn barod i’ch cynorthwyo
|
|