Amdanom ni > Beth ydym ni'n ei wneud > Deddf Rhyddid Gwybodaeth English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000            
 
O 1 Ionawr 2005, mae gennych hawl i gael gwybod os yw Awdurdod yr Heddlu yn dal gwybodaeth ar unrhyw fater sy’n destun cais gennych chi ac, os ydyw, i gael gwybod beth yw’r wybodaeth honno.

Yn dibynnu ar eithriadau penodol, sydd i’w gweld yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, yn gyffredinol dylai’r Awdurdod gydymffurfio â’ch cais o fewn ugain niwrnod gwaith.

Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddiadau. Mae’r cynllun cyhoeddiadau yn disgrifio’r math o wybodaeth mae’r Awdurdod yn ei gyhoeddi. Mae hefyd yn disgrifio ar ba ffurf mae’r wybodaeth yn cael ei chadw, os bydd tâl yn cael ei godi am yr wybodaeth, ynghyd â sut i gysylltu ã ni. Os ydych yn ceisio gwybodaeth, gwahoddir chi i ystyried y cynllun er mwyn gweld os yw’n bosibl ei ddefnyddio i ddarparu’r wybodaeth yr ydych chi’n chwilio amdani.

Dylid cyfeirio ceisiadau am unrhyw wybodaeth nad yw’n ymddangos dan y cynllun at:

Kelvin Dent
Prif Weithredwr
Glan-y-Don
Bae Colwyn
LL29 8AW

Dylid cyflwyno eich cais yn ysgrifenedig gan nodi’n glir pa wybodaeth rydych chi ei hangen. Os oes arnoch angen cymorth neu gyngor ynghylch sut i gyflwyno cais, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa Awdurdod yr Heddlu. Y rhif ffôn yw 01492 805486.

Mae’r Awdurdod yn gobeithio ei fod yn delio â phob cais am wybodaeth mewn modd priodol. Fodd bynnag, os oes gennych achos i gwyno, dylech ysgrifennu at y Prif Weithredwr.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 Cynllun Cyhoeddi

Rhan 1 
MSWord
Rhan 2
MSWord
Rhan 3

 

 Section contents