Amdanom ni > Aelodau > Cynllun Lwfansau English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Cynllun Iwfansau            
 

1. LWFANSAU’R AELODAU

Dan Deddf Cyfiawnder Troseddol â’r Heddlu 2001, dadreolwyd lwfansau mynychu’r swyddogion yn 2002, a chafodd pob Awdurdod Heddlu yr hawl i benderfynu ar ei gynllun lwfansau ei hun. Roedd hyn yn gyfle i foderneiddio’r ffordd yr oedd yr aelodau yn cael eu talu am yr amser a’r ymdrech yr oeddynt yn ei gyfrannu tuag at fusnes yr Awdurdod. Roedd hefyd yn fodd o sicrhau na châi neb eu gwahardd am resymau ariannol rhag bod yn aelod o Awdurdodau’r Heddluoedd. Yn ogystal, mae hyn yn cydfynd â threfn Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Cyhoeddus eraill.

Sefydlodd Cymdeithas Awdurdodau’r Heddluoedd Adroddiad Annibynnol er mwyn edrych yn annibynnol ac yn ddiduedd ar y lwfansau y dylai Aelodau o Awdurdod yr Heddlu eu derbyn. Mae’r Adroddiad Annibynnol yn argymell y cyfraddau isod o lwfans sylfaenol, yn seiliedig ar ffigwr o £18 yr awr. Oherwydd bod yr Aelodau yn treulio cryn dipyn o amser yn teithio i gyfarfodydd mewn ardal eang fel Gogledd Cymru, cafodd y lwfansau eu pwysoli fel â ganlyn:

Band A 0 i 25 milltir o’r Pencadlys Dim pwysoli
Band B 26 i 40 milltir o’r Pencadlys + 10%
Band C 41 i 55 milltir o’r Pencadlys + 20%
Band CH Mwy na 56 milltir o’r Pencadlys +30%

N.B. Mae’r pellter yn cyfeirio at y milltiroedd un ffordd o gartref yr aelod i'r pencadlys wrth ddefnyddio’r ffordd agosaf fwyaf rhesymol. Nid yw’r canrannau yn gronnol.

 
BAND
O 010907
Sylfaenol
A
5979
 
B
6573
 
C
7173
 
CH
7770
Sylfaenol
A
8967
Pwyllgor
B
9864
Cadeirydd
C
10758
 
CH
11661
Pwyllgor
A
10758
Is Gadeirydd
B
11835
 
C
12915
 
CH
13989
Awdurdod
A
17934
Cadeirydd
B
19728
 
C
21522
 
CH
23319

1. Bod y Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig a argymhellir ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yr Awdurdod a Chadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu talu yn lle, yn hytrach nag yn ychwanegol at, y lwfans sylfaenol. Pe cyfyd sefyllfa lle mae hawl gan Aelod i gael mwy nag un lwfans cyfrifoldeb arbennig ( e.e. fel Cadeirydd yr Awdurdod ac un o’i Bwyllgorau), dim ond y lwfans uwch fyddai’n berthnasol.

2. Bod cyfarfodydd yr awdurdod lle bydd gan y Cadeirydd Gyfrifoldeb Arbennig fel â ganlyn:

Pwyllgorau Sylfaenol Safonau Proffesiynol
    Adolygu Perfformiad
Pwyllgor Archwilio
Adnoddau Dynol

3. Y dylid talu lwfans mynychu o £65 fesul hanner diwrnod i Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau a Thribiwnlysoedd Apêl yr Heddlu.

4. Y dylid talu Lwfans Gofalwyr/Pobl Ddibynnol o £6 yr awr o dan amgylchiadau priodol (plant dan 16, pobl ddibynnol eraill lle cyflwynir tystiolaeth o angen, yn daladwy yn erbyn gwir wariant, gyda thystiolaeth derbynebau, heb fod yn daladwy i rywun arall sy’n byw yng nghartref yr Hawlydd a.y.y.b.)

5. Bod y lwfansau yn cael eu mynegrifo yn flynyddol i bwynt canolog cyfraddau cyflog Staff Ategol yr Heddlu a’r Cynghorau.

6.  Os caiff Aelod ei wahardd oherwydd y darganfuwyd ei fod ef/hi wedi torri Cod Ymddygiad Awdurdod yr Heddlu neu os cafodd ef/hi ei wahardd/gwahardd yn ystod ymchwiliad i doriad honedig o’r Cod Ymddygiad, ni ddylai’r Aelod hwnnw/honno dderbyn unrhyw lwfansau yn ystod cyfnod y gwaharddiad ond os caiff ef/hi ei ddifeio/difeio wedyn, dylid gwneud taliad ôl-weithredol am gyfnod y gwaharddiad.

 Section contents