Amdanom ni > Aelodau > Pwyllgor Safonau English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Y Pwyllgor Safonau            
 

 

Y Pwyllgor Safonau

Mae gan Awdurdod yr Heddlu, yn yr un modd ag Awdurdodau lleol eraill, Bwyllgor Safonau er mwyn hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg Aelodau'r Awdurdod. Yn eistedd ar Bwyllgor Safonau’r Awdurdod mae 4 o aelodau presennol yr Awdurdod ynghyd â 5 Aelod Annibynnol sy’n cael eu penodi’n benodol i wasanaethau ar y Pwyllgor Safonau.

Aelodau’r Pwyllgor Safonau

Mae'n rhaid i Aelodau’r Pwyllgor Safonau

Gael cymeradwyaeth y mwyafrif o Aelodau’r Awdurdod

Beidio â bod wedi gwasanaethu fel Swyddog nac Aelod o’r Awdurdod am gyfnod o 5 mlynedd cyn eu penodi

Beidio â bod yn berthynas neu'n gyfaill agos i Swyddog neu Aelod o’r Awdurdod

Bod yn barod i fynychu cyfarfodydd o’r Pwyllgor Safonau yn ôl yr angen. (fel arfer cynhelir 1-2 cyfarfod y flwyddyn a thelir lwfans mynychu a threuliau i'r Aelodau)

Dymuna Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru adlewyrchu'r ardal y mae’n ei wasanaethu a chroesewir ceisiadau gan bawb sy’n gymwys waeth be fo’u rhyw, tarddiad ethnig, anabledd, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, oed nac unrhyw ffactor amherthnasol arall. Rydym am i’n haelodau gynrychioli amrediad mor eang â phosibl o boblogaeth yr ardal. Mae gan yr Awdurdod bolisi dwyieithog Cymraeg/Saesneg ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer aelodau nad ydynt yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

am rhagor o fanylion, cysylltwch â:

Mr Kelvin Dent, LLB, Prif Weithredwr, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Glan-y-Don, Bae Colwyn LL29 8AW ffôn: 01492 805486 neu anfonwch e-bost:PoliceAuthorityWebSite@north-wales.police.uk

 

Aelodau Annibynnol Pwyllgor Safonau            
 
AWDURDOD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
AELODAU PWYLLGOR SAFONAU

Mrs J A Frost
Mr G Gordon
Mr M G Roberts
Mr G R Thomas
Dr A Valijan


AELODAU’R AWDURDOD

Cyng C Bithell
Cyng C W Jones
Mrs E H Rowlands 


Gellir cysylltu ag unrhyw un o’r aelodau uchod trwy’r Prif Weithredwr, Mr Kelvin Dent, ar 01492 805486
 Section contents