Mae Awdurdodau Heddluoedd yn un o bum awdurdod cyfrifol â dyletswydd i weithio mewn partneriaeth er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn drwy’r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol (PDC) lleol, a gyflwynwyd drwy’r ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002).
Mae’r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn yn gosod dyletswydd statudol ar ‘awdurdodau cyfrifol’ mewn ardaloedd lleol i gydweithio mewn partneriaeth i ddatblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn a chamddefnyddio sylweddau yn eu hardaloedd. Yng Nghymru, cyflawnir y gwaith ar y cyd gan 22 PDC.
Mae’r PDC yn cynnwys, drwy statud, Awdurdod yr Heddlu, yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Tân ac Achub a’r Awdurdod Iechyd, sef yr 'awdurdodau cyfrifol’. Mae llawer o’r PDC hefyd yn gweithio’n glos gydag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol eraill megis Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc, ynghyd â’r sector gwirfoddol a busnesau.
Mae’n ofynnol i’r PDC ddarparu asesiad strategol blynyddol a chynllun partneriaeth, sy’n nodi eu dull o ymdrin â blaenoriaethau lleol ac yn dynodi’r adnoddau sydd eu hangen i ddarparu’r cynllun.
Mae modd crynhoi swyddogaeth a chyfrifoldebau aelodau Awdurdod yr Heddlu mewn perthynas â PDC fel a ganlyn:
- I gynrychioli’r Awdurdod ar lefel PDC.
- I geisio sicrhau dealltwriaeth glir o swyddogaethau, dyletswyddau a blaenoriaethau Awdurdod yr Heddlu.
- I weithio mewn partneriaeth â’r awdurdodau cyfrifol ac i fynd i’r afael â throsedd ac anhrefn a chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal leol.
- I gymryd rhan mewn archwiliad o drosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer yr ardal PDC.
- I gyfrannu at ddatblygiad Strategaethau Diogelwch Cymunedol a Chynlluniau Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau sy’n ymdrin yn effeithiol â materion a ddynodir.
- I adrodd yn ôl ar bob mater allweddol sy’n codi yn y PDC i Awdurdod yr Heddlu.
- I helpu i sicrhau cydlyniant a chysondeb rhwng y targedau yng Nghynllun Plismona’r Awdurdod a’r targedau a osodwyd yn Strategaeth Diogelwch Cymunedol y BDC.
- I hwyluso'r gwaith o ddwyn gwaith ymgynghori a gwybodaeth ynghyd ar lefel leol ynghyd ag adrodd yn ôl i Awdurdod yr Heddlu.
- I helpu gydag adolygiad cyson o berfformiad plismona lleol yn erbyn y targedau yng Nghynllun Plismona’r Awdurdod a’r Strategaeth Diogelwch Cymunedol ac i adrodd yn ôl i Awdurdod yr Heddlu.
- I ddarparu cefnogaeth i Awdurdod yr Heddlu parthed atal trosedd a mentrau lleol.
- I adeiladu perthynas dda gyda phob asiantaeth partner sy’n cael ei chynrychioli ar y PDC.
Yr Aelodau o Awdurdod yr Heddlu sydd ar hyn o bryd yn eistedd ar y 6 PDC yng Ngogledd Cymru yw:
Y Rhanbarth Gorllewinol: Ynys Môn: Cyngh Peter Rogers
Gwynedd: Cyngh Selwyn Griffith
Y Rhanbarth Canolog: Conwy: Cyngh Graham Rees YH
Sir Ddinbych: Cyngh Ian Gunning
Y Rhanbarth Dwyreiniol Sir y Fflint: Cyngh Chris Bithell
Wrecsam: Cyngh Gerry Craddock |