Ymgynghori > Ymgynghoriadau Cyfredol English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Cydweithrediad            
 

 Mae Heddlu Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â Heddlu Awdurdod Heddlu Swydd Gaer, eisiau gwybod beth yw eich barn chi ynghlÿn â chydraddoldeb hil fel y gallwn ddefnyddio'r wybodaeth wrth ddatblygu ein Cynlluniau Cydraddoldeb Hil.  Os ydych yn byw yng Ngogledd Cymru neu yn Swydd Gaer, byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio munud neu ddau yn ateb y cwestiynau isod: Ar ôl ei gwblhau, dychwelwch drwy e-bost i Elizabeth.Ward@nthwales.pnn.police.uk

Holiadur
Ymgynghoriadau Cyfredol            
 

Mae annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch plismona lleol yn ganolog i waith Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Rydym wedi ymrwymo i gynnig ystod o gyfleoedd ar gyfer ymgynghori gyda’r cyhoedd. Rydym am i bobl leol allu chwarae mwy o ran yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch plismona ar lefel leol a chanfod atebion.

Rydym yn defnyddio nifer o wahanol ddulliau o ymgynghori a chyfathrebu, gan gynnwys cyfarfodydd cyhoeddus. 'Fforymau Cymunedol Awdurdod yr Heddlu' ydy'r enw a roddir arnynt a chynhelir 13 ohonynt yn ystod y flwyddyn mewn gwahanol leoedd yng Ngogledd Cymru. Mae gennym hefyd Banel Dinasyddion a byddwn yn ymgynghori ar ffurf arolygon yn ogystal â thrwy gyfrwng ein gwefan. Weithiau rydym yn ceisio eich barn ar bynciau penodol megis pa fath o gynnydd yn y gyllideb fyddech chi, fel rhywun sy'n Talu Treth y Cyngor, yn barod i’w gefnogi.

Gallwch chwarae rhan yng ngwaith Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru mewn sawl ffordd. Rydym yn gwerthfawrogi cyfleoedd i siarad gyda chi a gwrando ar eich sylwadau.

Mae ymgynghori yn helpu’r Awdurdod i:

Ganfod eich barn ynglŷn â’r heddlu – beth yw eich pryderon, beth mae’r heddlu yn ei wneud yn dda, a’r pethau nad yw’r heddlu yn eu gwneud cystal, sut y gallwch chi ddylanwadu ar ein polisïau.

Hysbysu pobl – trwy ymgynghori, gallwn roi’r newyddion diweddaraf i chi ynglŷn â mentrau lleol, rhoi cipolwg i chi ar sut yr ydym yn plismona eich ardal chi a’ch galluogi i ddylanwadu ar flaenoriaethau plismona lleol a thargedau.

Cydweithio’n glòs â chyrff eraill – gall y cyhoedd dynnu sylw at bryderon a phroblemau lleol eraill, yn ogystal â phryderon ynghylch trosedd ac awgrymu ffyrdd lleol o ddatrys problemau lleol.

Er gwaethaf ein hymdrechion i roi clust i gymaint o bobl yn y gymuned â phosibl, rydym yn ymwybodol bod yna grwpiau o hyd yn y gymuned gyffredinol nad ydym yn llwyddo i’w cyrraedd. Mae’n bwysig fod yr Awdurdod yn ymdrechu i gyrraedd cynrychiolaeth mor eang â phosibl o'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru'n cael ei blismona'n effeithiol a, cyn belled â phosibl, yn ôl anghenion y bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r ardal.

Crëwyd swydd newydd yn yr Awdurdod i wneud yn siŵr bod ymgynghori yn ganolog i’n gwaith. Mae gennym bellach Gydlynydd Cyswllt â’r Gymuned llawn amser sy’n benodol gyfrifol am roi ein Strategaeth Ymgynghori ar waith yn ogystal ag adeiladu ar y strwythurau sydd eisoes mewn lle ar gyfer ymgynghori â thrigolion lleol.

Mae ein Cydlynydd Cyswllt â’r Gymuned yn cydweithio’n glòs gyda’r Heddlu a phartneriaid eraill i hyrwyddo cyswllt gyda’r gymuned yn y gwaith o blismona. Byddai hefyd yn croesawu eich sylwadau ar faterion plismona.

Ymdrechu i wella            
 
Er ein hymdrechion i wrando ar gymaint o bobl yn y gymuned â phosibl, rydym yn ymwybodol fod yno grwpiau ymysg y cyhoedd yn gyffredinol nad ydym yn eu cyrraedd yn aml. Mae’n bwysig fod yr Awdurdod yn ceisio cyrraedd trawsdoriad mor eang â phosibl o’r cyhoedd er mwyn sicrhau bod Gogledd Cymru’n cael ei blismona’n effeithiol gan ddiwallu anghenion pobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gogledd Cymru lle mae hynny’n bosibl.

Crëwyd swydd newydd yn yr Awdurdod i sicrhau fod ymgynghori’n ganolog i’n gwaith. Mae gennym bellach Gydlynydd Cyswllt â’r Gymuned llawn amser sy’n gweithredu ein Strategaeth Ymgynghori ynghyd ag ychwanegu at y strwythur sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer ymgynghori â phobl leol.

Mae ein Cydlynydd Cyswllt â’r Gymuned yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu a’i bartneriaid i hybu cyfraniad y gymuned o fewn plismona.
LLAIS Y GOGLEDD            
 

Mae “Llais y Gogledd” (Voice of the North) yn ddatblygiad cyffrous ym mhroses ymgynghori’r Awdurdod. Panel Dinasyddion o 1,500 o bobl sy’n cynrychioli trawstoriad o’r cyhoedd yng Ngogledd Cymru ydyw. Ymgynghorir â’r Panel, a gafodd ei recriwtio gan gwmni ymchwilio i'r farchnad annibynnol, ar ffurf holiaduron o bryd i’w gilydd ynghylch plismona yng Ngogledd Cymru. Yn yr arolwg cyntaf a gynhaliwyd yn hydref 2006, ymddangosodd materion megis blaenoriaethau plismona, tawelu meddwl y cyhoedd ac ariannu’r heddlu. Bu’r sylwadau a gafwyd yn yr arolwg o gymorth i Awdurdod yr Heddlu a Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt baratoi cynllun plismona 2007/08.

Mae Heddluoedd ac Awdurdodau eraill wedi defnyddio Paneli Dinasyddion yn llwyddiannus fel fforymau ymgynghori a’r bwriad yw y bydd “Llais-y-Gogledd” yn ychwanegiad dylanwadol i drefniadau ymgynghori blynyddol Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

Mae’r trydydd arolwg  wedi ei gwblhau.
Mae’r dogfennau isod a ddarparwyd gan Swift Research Ltd ar gael:

Survey Result PowerPoint
 Section contents