FFORYMAU CYMUNEDOL AWDURDOD YR HEDDLU
Mae Awdurdod yr Heddlu yn annibynnol ar yr Heddlu. Prif ddyletswydd yr Awdurdod yw sicrhau fod Heddlu Gogledd Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon a bod ei weithgareddau’n adlewyrchu anghenion y cymunedau lleol.
Mae datblygiad llwyddiannus Panelau Plismona Cymdogaethau i daclo problemau plismona lleol yn llygad y ffynnon mewn partneriaeth â’r heddlu ac asiantaethau eraill yn golygu fod Fforymau Cymunedol Awdurdod yr Heddlu bellach wedi disodli cyfarfodydd Grwpiau Ymgynghorol yr Heddlu â'r Gymuned. Mae'r Fforymau Cymunedol hyn yn chwarae rhan allweddol mewn galluogi Awdurdod yr Heddlu i ymgynghori gyda'r cyhoedd ar themâu penodol er mwyn trafod a dynodi blaenoriaethau plismona'r dyfodol a gweithio gyda'r Prif Gwnstabl i sicrhau fod y materion hyn yn cael eu taclo.
Mae chwe Fforwm Cymunedol Awdurdod yr Heddlu, un ym mhob un o siroedd Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae pob grwp yn cyfarfod ar gyfnodau rheolaidd yn ystod y flwyddyn, fel arfer mewn gwahanol ganolfannau ym mhob sir. Bydd dyddiadau'r cyfarfodydd yn cael eu hysbysebu’n eang yn y wasg leol, llyfrgelloedd a mannau cyhoeddus eraill. Cadeirir y cyfarfodydd gan Aelod o Awdurdod yr Heddlu ac maent ar agor i’r cyhoedd a chynrychiolwyr cymunedol. Mae’r Fforymau’n cynnig cyfle ardderchog i aelodau cymunedau lleol rannu eu barn ynghylch cyfeiriad a dull plismona yn y dyfodol ac yn cynorthwyo’r Aelodau i ddylanwadu ar y broses gynllunio flynyddol. Mae dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal cyn bo hir fel a ganlyn:
| Ynys Mon |
06.01.09 |
|
| Sir Ddinbych |
08.01.09 |
|
| Conwy |
22.01.09 |
|
| Wrecsam |
15.01.09 |
Y Neuadd Ddinesig, Wrecsam |
| Sir y Fflint |
13.01.09 |
|
| Gwynedd |
20.01.09 |
|
Mae pob un o'r cyfarfordydd yn dechrau am 7.00yh.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Mr Kelvin Dent Prif Weithredwr Glan-y-Don Bae Colwyn Conwy LL29 8AW
Neu cliciwch yma i anfon e-bost atom.
Nodiadau o'r cyfarfodydd mwyaf diweddar:-
|