|
Ganed yn Higher Kinnerton, Sir y Fflint. Nid yw’n siarad Cymraeg oherwydd nad oedd yn cael ei dysgu yn ysgolion Sir y Fflint pan oedd yn yr ysgol.
Bellach wedi ymddeol o’r byd bancio ac yn meddu ar gryn arbenigedd mewn gwasanaethau ariannol. Mae’n ŵr gweddw gyda thair merch sy'n oedolion ac yn byw yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Bu’n chwarae hoci tan ei bumdegau ac mae ganddo ddiddordeb brwd ym mhob math o chwaraeon. Mae hefyd yn mwynhau chwarae cerddoriaeth jas.
Mae ganddo ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol ers blynyddoedd ac wedi cymryd rhan mewn mudiadau lleol ym mhob man y bu'n byw.
Mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd Grŵp Gogledd Cymru a’r Gororau o’r Gymdeithas Gwasanaeth Cenedlaethol (Y Llu Awyr Brenhinol) ac yn Lywydd Clwb Llewod yr Hôb a Phentrefi De Sir y Fflint.
Gwasanaethodd fel Cynghorydd Cymuned yn yr Hôb ers saith mlynedd ac fe'i etholwyd i Gyngor Sir y Fflint dros Ward De Brychdwn ym mis Mai 2008. Mae’n gwasanaethu ar y pwyllgorau Sirol canlynol ar hyn o bryd: Rheolaeth Gorfforaethol, Cyfansoddiadol, Pensiynau, Cydlynu ac Archwilio.
|