Amdanom ni > Aelodau > Manylion Cyswllt English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Cyng Ian Roberts            
 
62 Church View,
Shepherd's Lane
Chirk
Wrecsam
LL14 5PF

ff: 01691 773758

Bu Cynghorydd Ian Roberts yn Gadeirydd Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru ers 2005.

Mae’n flaenllaw ym myd plismona’r Deyrnas Unedig ac ar yn o bryd yn Gadeirydd Awdurdodau Heddluoedd Cymru ac yn aelod blaen ar safonau proffesiynol ar Gymdeithas Awdurdodau’r Heddluoedd.

Yn briod gyda thri phlentyn sydd bellach yn oedolion, mae wedi byw yn y Waun ar hyd ei oes ac wedi ymroi i wasanaethu ei gymuned leol.

Roedd yn aelod o Gyngor Tref y Waun am 14 blynedd a bu’n gadeirydd Cyngor y Dref ar ddau achlysur.

Etholwyd Cynghorydd Roberts i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel aelod dros Ward Gogledd y waun ym 1995. Roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol tan fis Mai 2004.

Mae’n aelod o’r Grŵp Strategaeth Trosedd ac Anhrefn, y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc a’r Pwyllgor Craffu Polisi Rheoli Corfforaethol.

Mae Cynghorydd Roberts yn cadeirio Grŵp Cyswllt Amgylcheddol y Waun ynghyd â Grŵp Cyswllt Pen y Bont. Mae hefyd yn Llywodraethwr Ysgol Gynradd Ceiriog yn y Waun.

Mae diddordebau eraill yn cynnwys garddio, cerdded, bwyd a chefnogi Clwb Pêl-droed Wrecsam.

 Section contents