Caer Rhun Hall Conwy LL32 8HX
ff: 01492 650012
|
 |
|
|
Cafodd Mr Anderson ei fagu ym Mhenmaenmawr ac yn Nyffryn Conwy. Mae’n briod a chanddo bedwar o blant wedi tyfu a nifer o wyrion ac wyresau.
Mae Mr Anderson yn fargyfreithiwr ac yn Gyfrifydd Siartredig cymwys a bu’n Gadeirydd ar Gyngor Sefydliad y Cyfrifyddion Siartredig. Enillodd radd yn y Gyfraith o Brifysgol Caergrawnt ac mae’n arbenigwr mewn Cyfraith Cwmnïau a Rheoliadau Cyfrifeg. Mae hefyd yn berchen ar Goleg Hyfforddi Cyfrifeg a Busnes.
Yn 2001 enillodd wobr Sefydliad y Cyfrifyddion Siartredig am gyrhaeddiad nodedig.
Cafodd ei wneud yn OBE yn 1997 ac ef hefyd yw Dirprwy Raglaw Clwyd.
Mae ei ddiddordebau’n cynnwys garddio, cerddoriaeth, ceir, bwyd a gwin a Gwareiddiadau Groeg a Rhufain ac mae’n gyn Gapten Clwb Golff Penmaenmawr.
Mae Mr Anderson wedi bod yn Ynad Aelod o’r Awdurdod ers 1991 ac ef oedd Cadeirydd yr Awdurdod yn ystod 1999-2000. Mae Mr Anderson ar hyn o bryd yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau Proffesiynol yr Awdurdod. | |
|