7 Dodgson Close, Llandudno CONWY LL30 1AJ
ff: 01492 879645 |
 |
|
|
Mae Mr Drew wedi bod yn byw yn Llandudno ers 1998, ac yn briod â Kath. Mae ganddynt ddau fab sydd bellach wedi tyfu ac mae gan y ddau ohonynt eu teuluoedd eu hunain. Mae'n aelod o’r Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus ac mae ganddo Ddiploma mewn Gweinyddu Busnes o Ysgol Fusnes Manceinion. Er ei fod bellach wedi ymddeol o'i yrfa mewn cyllid cyhoeddus oedd yn cynnwys GIG, nifer o Awdurdodau Lleol ac, yn olaf, Cyfarwyddwr Cyllid Cymdeithas Tai, mae Mr Drew yn parhau i ymddiddori mewn gwaith cyhoeddus, gwirfoddol ac elusennol. Dros y blynyddoedd, mae hyn wedi golygu aelodaeth weithgar o Bwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cymdeithas Tai Gogledd Cymru, Clwb Rotari Llandudno a gwaith fel ymgynghorydd gwirfoddol gyda Chanolfan Cyngor ar Bopeth Llandudno.
Penodwyd Mr Drew i wasanaethu ar Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru fel Aelod Annibynnol ym mis Ebrill 2003 a’i ailbenodi am gyfnod pellach o bedair blynedd ym mis Ebrill 2007. Ef yw Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Phanel Archwilio'r Gyllideb. Mae hefyd yn eistedd ar Bwyllgor Adolygu Perfformiad yr Awdurdod, y Bwrdd Effeithlonrwydd a Gwelliant Parhaus, Bwrdd Canolbwyntio ar y Dinesydd a Quest, y Panel Cydnabyddiaeth, Grŵp Tasg Llais y Gogledd a’r Grŵp Tasg Cynllunio. Ef hefyd yw Aelod Blaen yr Awdurdod dros Oed (Pobl Hŷn) a Chyllid.
| |
|