Ty'n Llwyn Carrog Corwen LL21 9AP
|
 |
|
|
Magwyd yng Nghorwen, Sir Ddinbych a dychwelodd i’r ardal ym 1990 i redeg fferm ei theulu gyda’i gŵr. Mae ganddi ddau o blant ifanc a hi yw trysorydd CRhAC a Llywodraethwr yr ysgol gynradd leol. Wedi ei hyfforddi mewn Ecoleg a Rheoli Plâu Trofannol bu’n gweithio am gyfnod yng Ngwasanaeth Sifil Gwyddonol y Weinyddiaeth Amaeth a’r Weinyddiaeth Datblygiad Dramor. Roedd hyn yn cynnwys gwaith yn y DG yn ogystal â thramor yn Ne America ac Affrica. Sefydlodd ei chwmni ei hun ym 1996 ac ers hynny bu’n gweithio fel ymgynghorydd mewn datblygiad amaethyddol ac ymchwil rheoli plâu.
Ymunodd Ms Webb â'r Awdurdod fel Aelod Annibynnol ym mis Mai 2002 ac mae'n Gadeirydd y Panel Ymgynghori. Mae Ms Webb hefyd yn un o ddau Aelod Blaen yr Awdurdod ar Amrywiaeth.
| |
|