Menter newydd i Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru yw sefydliad y Pwyllgor Archwilio a grëwyd yn 2006. Fel Awdurdod rydym yn cydnabod fod llawer o sefydliadau yn y sectorau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus yn manteisio o gael golwg fewnol ond o ‘hyd braich’ ar brosesau. Mae AHGC wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd ond eleni yw’r tro cyntaf i bwyllgor arbennig gymryd cyfrifoldeb am y gwaith.
Yn wahanol i’r hyn a gredir yn gyffredinol, nid dim ond olrhain gweithgaredd ariannol y mae’r Pwyllgor Archwilio, er bod hon yn elfen bwysig o’u gwaith. Mae’r Pwyllgor yn cyflogi arbenigwyr ar Archwilio Mewnol o Gyngor Sir Ddinbych i archwilio ac i riportio’n ôl ar bob agwedd ar waith Heddlu Gogledd Cymru.
Bydd Rhaglen Waith y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2006/07 felly yn cynnwys derbyn adroddiadau a gweithredu yn ôl yr hyn a ddaw i’r amlwg mewn meysydd mor amrywiol ag Iechyd a Diogelwch, yr Adran Cŵn, Taliadau Blaenoriaeth Arbennig, Uned yr Hofrennydd, Yr Ysgol Yrru, Hyfforddiant Hunan Amddiffyn a’r Ganolfan Drylliau Tanio.
Yn mynd yn ei flaen yn y cefndir mae’r gwaith parhaus o dderbyn adroddiadau blynyddol gan archwilwyr allanol a monitro cynnydd neu ddiffyg cynnydd ymddangosiadol o ran gweithredu argymhellion adroddiadau cynharach.
Yr egwyddor gyffredinol yw y bydd pob maes o weithgaredd, bob tair blynedd, yn cael ei archwilio, y bydd adroddiad yn cael ei lunio a chynnydd unrhyw argymhellion sy’n deillio o’r adroddiad hwnnw yn cael eu monitro’n gyson. Y Pwyllgor Archwilio ei hun sy’n dewis y blaenoriaethau. Os dymuna unrhyw aelod o’r cyhoedd neu’r heddlu sy’n darllen hwn awgrymu blaenoriaethau, rwy’n fwy na bodlon fel Cadeirydd i fwydo’r cynigion hynny i mewn i’n prosesau gwneud penderfyniadau a riportio’n ôl i’r unigolyn ynghylch yr hyn a wnaethom ynglŷn â’u sylwadau
Mr Chris Drew Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio

|