Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol (PSP) yn gweithredu ar ran AHGC i ymgymryd â’r prif swyddogaethau a ragnodir i ni yn statudol i hyrwyddo effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd plismona yn lleol.
Mae’n hanfodol bwysig bod cwynion a wneir gan aelodau o’r cyhoedd yn cael eu trin yn gywir os ydym am gynnal ffydd yn ein heddlu.
PRIF SWYDDOGION Rôl y PSP yw gweithredu ar ran AHGC i ymchwilio i gwynion a wneir yn erbyn y
Prif Gwnstabl, y Dirprwy Brif Gwnstabl a’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol. Mae’n rhaid i ni hefyd benderfynu a ddylid cyfeirio materion o’r fath i sylw Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (CCAH) lle nad yw atgyfeiriad yn fandadol. Yn ffodus anaml y mae materion o’r fath yn codi.
AELODAU ERAILL O’R HEDDLU Un o’n swyddogaethau pwysig eraill y Pwyllgor yw derbyn gwybodaeth am faterion yn ymwneud â chwynion a disgyblaeth o fewn yr heddlu. Y Prif Gwnstabl yw’r swyddog sy’n delio efo cwynion ynghylch aelodau o’r heddlu, o Gwnstabl i Brif Uwcharolygydd. Rôl y PSP yw goruchwylio gwaith yr Adran Safonau Proffesiynol (ASP) a sefydlwyd efo’r heddlu i gofnodi ac ymchwilio i gwynion. Rydym yn goruchwylio eu gwaith drwy archwilio ffeiliau wedi eu cwblhau bob chwarter ar hap er mwyn gweld sut yr ymdriniwyd â hwy. Mae hyn yn golygu edrych yn fanwl iawn ar y ffeiliau er mwyn sicrhau y dilynwyd y prosesau cywir ac y cafodd y mater ei drin yn gytbwys a, lle bo hynny’n bosibl, yn lleol. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau fod gwersi a ddysgwyd yn cael eu cofnodi ac y cymerir camau i sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto.
ARCHWILIO Mae’r broses archwilio yn ei gyfanrwydd yn destun archwiliad manwl gan Archwilwyr ei Mawrhydi a’r Comisiwn Archwilio, a fydd yn adolygu effeithiolrwydd ASP yr Heddlu a rôl yr Awdurdod. Mae’r Heddlu’n cael gradd dda yn gyson - yr uchaf bosibl mewn gwirionedd, ac mae rôl yr ASP hefyd yn cael canmoliaeth.
CASGLIAD Gall cyhoedd Gogledd Cymru fod yn dawel eu meddwl fod unrhyw gwynion dilys sydd ganddynt yn cael sylw di-oed a thrylwyr dros ben.
|