Mae ar Awdurdod yr Heddlu ddyletswydd i gynnal gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon, a rôl y Pwyllgor Adolygu Perfformiad yw archwilio a herio perfformiad yr heddlu yn erbyn gofynion y Cynllun Plismona, sy’n cynnwys amcanion a thargedau a osodir yn genedlaethol yn ogystal ag yn lleol.
Mae gennym raglen waith blynyddol a gytunwyd gyda’r Heddlu er mwyn adolygu meysydd allweddol sy’n berthnasol i’r cynllun plismona mewn modd systematig.
Mrs E H Rowlands Cadeirydd y Pwyllgor Adolygu Perfformiad
 |
|