Bydd gofyn i bob Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol fynychu cwrs hyfforddiant undydd cyn dechrau ar ddyletswyddau ymweld â dalfeydd.
Mae Cymdeithas yr Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol yn rhoi hyfforddiant ar rôl a chyfrifoldebau Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol. Lluniwyd yr hyfforddiant gyda’r nod o roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol newydd gyflawni eu rôl yn effeithiol.
cliciwch yma i ymweld â gwefan Cymdeithas Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol
Disgwylir i Ymwelwyr Dalfeydd fynychu ymweliad hyfforddi â dalfa a chwblhau dau ymweliad yng nghwmni Ymwelwyr Dalfeydd profiadol fel rhan o’u hyfforddiant a chyn ymgymryd â’u rôl.
Yn ogystal â’r hyfforddiant cychwynnol, disgwylir i Ymwelwyr Dalfeydd fynychu Seminarau hyfforddiant fydd yn cael eu trefnu, fel sy’n briodol, yn ystod cyfnod eu penodiad. |
|