Amdanom ni > Beth ydym ni'n ei wneud > Ymwelwyr Dalfeydd Annibynnol > Ystadegau English > 
  Cyfestru | Mewngofnodi




Ystadegau Ymweld (Ebrill 2007 i Mawrth 2008)            
 

 

Mae 13 Ymwelydd Dalfeydd Annibynnol yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd ac maent yn ymweld ag 1 ddalfa heb ei dynodi a 6 dalfa ddynodedig.

Yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2007 i 31 Mawrth 2008, cynhaliodd Ymwelwyr Dalfeydd 148 o ymweliadau o gymharu â 116 ymweliad yn 2006/07.  O'r 497 o bobl oedd yn y ddalfa adeg yr ymweliadau, nid oedd 224 (45%) ohonynt ar gael i dderbyn ymweliad am nifer o resymau e.e. am eu bod yn cysgu, yn cael eu cyfweld, neu fod y carcharor ym dreisgar neu wedi meddwi.

O'r 273 o garcharion oedd ar gael i'w gweld, cytunodd 247 (90%) ohonynt i dderbyn ymweliad gan Ymwelwyr Dalfeydd.  O'r carcharion a gafodd eu gweld, cododd 66 (27%) faterion yn ymwneud yn bennaf â bwyd/diod, blancedi ychwanegol, materion meddygol a cheisiadau am gael ymweliadau/gwneud galwadau ffôn.  Yn y flwyddyn flaenorol, roedd 207 o garcharion ar gael i'w gweld a chytunodd 151 ohonynt i gael ymweliad.

Cafodd y rhan fwyaf o'r materion a godwyd gan y carcharion eu datrys adeg yr ymweliad gan Swyddog y Ddalfa.  Mae ynrhyw faterion na all Swyddog y Ddalfa eu datrys yn cael eu dwyn i sylw Rheolwr y Ddalfa a'r Adran Gweinyddu Cyfiawnder er mwyn iddynt gymryd y camau priodol.

 Section contents