|
7 Llys Cadnant RHYL Sir Ddinbych LL18 4DJ
t: 07725 136928 |
 |
|
Penodwyd y Cynghorydd Gunning i Awdurdod yr Heddlu ym mis Mehefin 2008 ar ôl iddo gael ei ethol ar Gyngor Sir Ddinbych. Ymddeolodd o’r Heddlu yn 2007 ar ôl 28 mlynedd o wasanaeth. Cyflawnodd nifer o swyddi yn ystod ei yrfa gyda’r Heddlu a chymhwyso fel Swyddog Lleihau Trosedd y Swyddfa Gartref ac fel Swyddog Amddiffyn Plant. Roedd yn gyn-ysgrifennydd cangen Cwnstabliaid Ffederasiwn yr Heddlu ac is-gadeirydd bwrdd y cyd-gangen oedd yn cynrychioli swyddogion o bob rheng hyd at, ac yn cynnwys, Prif Arolygydd. Yn ystod ei gyfnod fel Swyddog/Cydlynydd Diogelwch Cymunedol dros Ranbarth Sir Ddinbych, datblygodd nifer o brosiectau partneriaeth oedd â'r nod o ostwng trosedd ac anhrefn.
Yn ymgyrchydd cymunedol a chodwr arian ymroddedig, mae’r Cynghorydd Gunning wedi cadeirio nifer o sefydliadau cymunedol ac wedi cydlynu digwyddiadau codi arian blynyddol yng Ngogledd Cymru ar ran yr elusennau "Plant mewn Angen" ac NCH Cymru. Yn 2003, dyfarnwyd MBE i’r Cynghorydd Gunning am ei wasanaeth i’r heddlu ac i’r gymuned.
Ar hyn o bryd, ef yw Ymgynghorydd Lles Plant cynghrair Pêl-droed Iau Rhyl a’r Cyffiniau ac, mewn partneriaeth â Chyngor Chwaraeon Cymru, datblygodd seminarau "Chwaraeon - v- Trosedd ac Anhrefn" gyda'r nod o ddatblygu gwaith partneriaeth gyda chynrychiolwyr o asiantaethau cysylltiedig â darpariaeth i'r ifanc. Mewn partneriaeth â thafarnwyr lleol a hyrwyddwyr cerddoriaeth, datblygodd y Cynghorydd Gunning brosiect “Musical Youth” y Rhyl.
Cynghorydd Gunning yw is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Brynhedydd ar hyn o bryd.
|
|
| |
|